|
World Concert Artist
Directory |
||||||||||
|
Tim Rishton
Organ |
||||||||||
"Helt utrolig flott ... organist i verdensklasse"
Dros y blynyddoedd ers i'r Dr Tim Rishton roi ei ymddangosiad cyntaf yn Llundain, a hynny yn llywyddianus iawn, y mae wedi mwynhau gyrfa prysur rhwynwladol yn organydd cyngerdd, darlledydd, awdur a darlithydd, yn ogystal â bod yn Athro prifysgol yn Norwy a Phrydain. Astudiodd Dr Tim Rishton gyda Susi Jeans ac ym mhrifysgolion Reading (lle yr ennillodd bob gwobr bosibl am ganu'r organ), Manceinion a Chymru, lle y cymerodd gradd doethur mewn cerddoriaeth y 18fed ganrif a gweithiodd wedyn ar y staff. Er bod Tim yn nodedig am repertoire Baroque Almaeneg, y mae ei gyngherddau wedi amrywio o Goncerto Organ Poulenc i'r concerti cynnar Prydeinig, o holl weithiau Bach i'r organ yn Sgandinavia i ddatganiad Schmidt yng Ngholeg Brenhinol yr Organyddion, a cherddoriaeth gyfoes i'r organ yn yr Arctig. Y mae yn rhoi cyngherddau eleni yn Rhufain, Venice, Norwy, yr Almaen a Ffrainc. Y mae wedi rhoi darlithoedd a dosbarthiadau meistr (darlledwyd sawl ohonynt) yn y Gymraeg, yn Norwyeg ac yn Saesneg mewn nifer o brifysgolion. Y mae Tim wedi darlledu yn fynych ar radio a theledu mewn nifer o wledydd, e.e. y Gorfforaeth Norwyig NRK, BBC, HTV ac S4C. Cliciwch i gael fanylion am y recordiadau
Yn ogystal â chyfansoddiadau organ sydd wedi eu cyhoeddu yn Norwy, Sweden a'r Almaen, y mae Tim wedi ysgrifennu nifer o lyfrau (un ohonynt, ar ganu'r organ mewn eglwys a chapel, sydd wedi ei chyfiethu i sawl iaeth, ac y mae cyfiethiad i'r Gymraeg ar y gweill), ac erthyglau mewn tanysgrifiadau cerddoriaeth ac yn The Revised New Grove (Saesneg) ac MGG (Almaeneg). Mae Tim yn aelod yng Ngorsedd y Beirdd a Llys yr Eisteddfod.
Beirniadaeth papirau newyddion Sgandinafia:"Under åpningsnummeret av John Parry kunne en lukke øynene og drømme seg til syttenhundretallet. Bachs Passacaglia i c-moll [var] en dans med kraft og fylde i musikken" "Orgelmusikk av ypperste klasse"
"en fremragende orgelspiller"
"Glimrande orgelspel ... vekte stor begeistring"
Sut i gysylltu â Tim, a gwybodaeth bellachCyferiad:Kelbrook Vicarage,
Ffôn: 01282 841607
|